Skip to main content

Anifeiliaid egsotig a bywyd gwyllt

Mae ein tîm profiadol yn cynnwys milfeddygon a nyrsys sydd â diddordeb arbennig a chymwysterau ychwanegol mewn trin anifeiliaid egsotig, rhywogaethau sŵolegol a bywyd gwyllt, gan ganiatáu i ni gynnig gofal eithriadol i'r rhywogaethau hyn. Mae ein cyfleusterau arbenigol wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer anghenion penodol yr anifeiliaid anwes hyn hefyd.

Rydym yn trin amrywiaeth eang o rywogaethau, gan gynnwys:

Mamaliaid megis cwningod, moch cwta, chinchillas, bochdewion, llygod mawr, llygod, a draenogod. 

Ymlusgiaid, megis nadroedd, madfallod (geckos, dreigiau barfog, chameleon), crocodeiliaid, crwbanod a terrapins.

Adar, megis parotiaid, caneris, ieir a hwyaid.

Pysgod, megis pysgod aur, pysgod acwariwm morol a dŵr croyw, koi a rhywogaethau pwll dwr. 

Amffibiaid, megis brogaod a llyffantod.

Infertebratau, megis pryfed a malwod.

Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr a byddai ein tîm milfeddygol egsotig yn hapus i drafod unrhyw ofynion ar gyfer rhywogaethau anarferol.

Rydym yn cynnig

  • Ymgyngoriadau milfeddygol estynedig ar gyfer ein hanifeiliaid anwes sydd newydd gofrestru fel y gallwn drafod anghenion penodol eich anifail anwes gan gynnwys diet a'r amgylchedd
  • Gofal iechyd arferol fel ysbaddu, brechiadau, gwiriadau parasitiaid
  • Ymgynghoriadau eraill i helpu i gadw'ch anifail anwes yn iach, gan gynnwys clinigau pwysau, cyngor ymddygiad, trimio pigau a chrafangau, a gwiriadau crwban cyn ac ar ôl gaeafgysgu
  • Arbenigedd deintyddiaeth anifeiliaid egsotig
  • Gofal iechyd brys gan gynnwys llawdriniaeth
  • Mynediad at wasanaethau diagnostig arbenigol fel delweddu diagnostig a phrofion gwaed rhywogaeth benodol
  • Offer arbenigol pwrpasol i gefnogi gofynion rhywogaeth benodol.