Skip to main content

Microsglodynnu

Rydym yn cynnig mewnblannu microsglodyn a chofrestru yn y practis.
Beth yw microsglodyn?

Dyfais electronig fach yw microsglodyn, tua maint gronyn o reis. Mae gan bob microsglodyn rif unigryw ynddo y gellir ei sganio a’i gofnodi mewn cronfa ddata canolog, ynghyd â manylion cyswllt perchennog. Os fydd eich anifail anwes yn cael ei ddarganfod, gall milfeddyg neu warden cŵn sganio ei ficrosglodyn ac adalw eich manylion cyswllt o'r gronfa ddata canolog.

Sut mae microsglodyn yn cael ei fewnosod?
Gosodir y microsglodyn gan ddefnyddio mewnblanwr a ddyluniwyd yn arbennig, o dan y croen rhwng llafnau ysgwydd eich anifail anwes. Ni ddylai hyn fod yn fwy poenus na chwistrelliad brechu. Gallwn osod microsglodyn ar yr un pryd â brechiad neu apwyntiad arall. Nid oes angen anesthetig, ond weithiau gallwn gynnig microsglodyn ar eich anifail anwes tra bydd gyda ni o dan anesthetig ar gyfer triniaeth arall ee ysbaddu.
A yw'n ofyniad cyfreithiol i fy anifail anwes gael microsglodyn?
Yng Nghymru, mae bellach yn ofyniad cyfreithiol bod pob ci yn cael microsglodyn erbyn 8 wythnos oed, ac mae’n rhaid i fanylion y perchennog gael eu cofrestru gyda chronfa ddata canolog. Os canfyddir nad oes gan gi microsglodyn, neu os nad yw manylion cyfredol perchennog wedi’u cofrestru gyda’r gronfa ddata, mae posibilrwydd o ddirwy o £500. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gathod gael microsglodyn, ond rydym yn argymell yn gryf y dylid gosod microsglodyn ar bob cath. Mae gosod microsglodion yn ffordd barhaol o adnabod eich cath, tra gall coleri gael eu colli’n hawdd a gall hyd yn oed achosi anafiadau difrifol.
Sut mae diweddaru fy manylion yn y gronfa ddata ganolog?
Bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion bob tro y bydd eich rhif ffôn, cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost yn newid. I wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â'ch cronfa ddata canolog. Y cronfeydd data a ddefnyddir amlaf yw Identibase a Petlog. Os nad ydych chi'n siŵr pa gronfa ddata y mae sglodyn eich anifail anwes wedi'i gofrestru â hi, cysylltwch â'r naill neu'r llall o'r cwmnïau hyn a gallant eich cyfeirio at y cyfeiriad cywir.
A oes angen i fy nghi wisgo coler a thag o hyd?
Oes. Mae’n dal yn ofyniad cyfreithiol i gŵn anwes wisgo coler a thag sy’n nodi enw a chyfeiriad eu perchennog, pryd bynnag y byddant mewn man cyhoeddus.
Pet Microchipping