Skip to main content

Ein Hanes

Mae milfeddygon Gibson & Jones wedi bod yn rhedeg yn yr ardal leol ers dros 40 mlynedd. Cafodd y bartneriaeth ei sefydlu yn yr 1980au rhwng Richard Gibson ac Alun Jones. Datblygodd y practis o bractis bach yn wreiddiol ‘Jones Vets’ yng nghanol Llanelli. Mae'r practis yn gweithredu o ddwy gangen Tregŵyr a Llanelli ac mae'n gwasanaethu ardal eang gyda chleifion ledled Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Ymddiswyddodd Richard Gibson o waith milfeddygol clinigol yn y feddygfa yn 2017, a chanolbwyntiodd yn bennaf ar reoli nes iddo ddechrau ei ymddeoliad haeddiannol yn 2022. Mae Alun Jones yn dal i fod yn gweithio allan o'n cangen yn Nhre-gŵyr ychydig ddyddiau bob wythnos, mae'n fawr iawn yn mwynhau bod yn filfeddyg ac nid yw'n hollol barod ar gyfer ymddeoliad unrhyw bryd yn fuan!

Yn 2022 prynodd Kevin Jones, milfeddyg a fydd yn wyneb cyfarwydd i lawer o gleientiaid, y busnes wrth Alun a Richard gan sicrhau’r practis a bydd yn parhau i fod yn bractis anghorfforaethol annibynnol dan berchnogaeth leol.

Yn wreiddiol yn bractis cymysg roedd milfeddygon Gibson & Jones yn darparu gofal milfeddygol i geffylau ac anifeiliaid fferm yn ogystal ag anifeiliaid anwes. Dros y blynyddoedd rydym wedi symleiddio ein gwasanaethau i ddarparu gwell gofal i anifeiliaid anwes llai ac yn awr rydym yn bennaf yn gofalu am gŵn, cathod, anifeiliaid bach a rhywogaethau egsotig.